Croesawu cwpan Cynghrair y Pencampwyr i Gymru

Uefa
Image caption Ian Rush a Jayne Ludlow gyda'r cwpannau ger Castell Caerdydd ddydd Gwener

Mae tlws Cynghrair y Pencampwyr wedi cyrraedd Caerdydd ddydd Gwener, cyn mynd ar daith o amgylch Cymru cyn y rownd derfynol yn y brifddinas ar 3 Mehefin.

Cafodd y gwpan ei chario oddi ar awyren ym Maes Awyr Caerdydd gan lysgennad ffeinal y bencampwriaeth, Ian Rush, a'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae'r gwpan yn cael ei harddangos yng Nghastell Caerdydd ac yna yn cael ei chludo i'r Stadiwm Genedlaethol lle bydd yn cael ei gosod ar ganol y cae gan Rush a llysgennad pencampwriaeth y merched, Jayne Ludlow, sydd hefyd yn rheolwraig ar garfan genedlaethol merched Cymru.

Yna bydd y gwpan yn mynd ar daith o amgylch Cymru gan ymweld ag ysgolion, clybiau a lleoliadau cyhoeddus.

Bydd cwpan Cynghrair Pencampwyr y Merched hefyd yn rhan o'r daith. Bydd ffeinal y merched yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Iau 1 Mehefin.

Diogelwch

Mae Uefa'n ystyried cau to Stadiwm y Principality ar gyfer y ffeinal am resymau diogelwch.

Dywedodd Giorgio Marchetti, cyfarwyddwr cystadlaethau corff rheoli'r gêm yn Ewrop fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r heddlu.

Mae pryderon am ddiogelwch wedi codi ers i ffrwydradau daro bws tîm Borussia Dortmund cyn eu gêm rownd yr wyth olaf yn yr Almaen.

Image copyright AFP/GETTY

Taith cwpan Cynghrair Pencampwyr UEFA - dyddiadau ymddangosiadau cyhoeddus:

  • Gwener 21 Ebrill: 16:45 - Cyrraedd Cymru a mynd ar daith o Gastell Caerdydd i'r Stadiwm Genedlaethol;
  • Sadwrn 22 Ebrill: 13:30-15:00 - Stadiwm Liberty, Abertawe;
  • Sul 23 Ebrill: 16:00-20:00 - Clwb Pêl-droed Aberystwyth;
  • Llun 24 Ebrill: 14:00-19:00 - Clwb Pêl-droed Dinas Bangor;
  • Mawrth 25 Ebrill: 17:00-18:30 - Clwb Pêl-droed Llandudno;
  • Mercher 26 Ebrill: 18:00-20:00 - Clwb Pêl-droed Y Bala;
  • Sadwrn 29 Ebrill: Castell Biwmares - drwy'r dydd;
  • Sul 30 Ebrill: 11:00-17:00 - Portmeirion;
  • Llun 1 Mai: 18:00-20:00 - Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn, Wrecsam;
  • Iau 4 Mai: 10:00-16:00 - canol tref Hwlffordd;
  • Sadwrn 6 Mai: 09:00-11:00 - Clwb Pêl-droed Y Drenewydd: 13:00-15:00 - Canolfan Hamdden Aberhonddu: 17:00-20:00 - Clwb Pêl-droed Merthyr;
  • Sul 7 Mai: 10:00-14:00 - Dinbych-y-pysgod;
  • Llun 8 Mai: 14:00-16:00 - Canolfan Siopa Friars Walk, Casnewydd: 18:00-20:00 - Stadiwm Cwmbrân.