Yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn yn ymweld â Chaerdydd

  • 21 Ebrill 2017
Corbyn
Image caption Jeremy Corbyn yn annerch torf yn yr Eglwys Newydd gyda Carwyn Jones yn gwrando (ar y dde)

Mae'r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi ymweld ag etholaeth Gogledd Caerdydd ar ei ymweliad cyntaf â Chymru ers cyhoeddi'r etholiad cyffredinol buan.

Mae Llafur yn gobeithio ail-gipio'r sedd ymylol wedi iddyn nhw ei cholli i'r Ceidwadwyr yn 2010.

Wrth siarad am y tro cyntaf yng Nghymru dywedodd Mr Corbyn mai'r unig beth mae'r Ceidwadwyr yn cynnig yw "ofn a digalondid."

Roedd rhai cannoedd yn y dorf a dywedodd Mr Corbyn ei fod wedi "laru" ar y syniad bod Prydain heddiw yn wlad o "ddigartrefedd a banciau bwyd."

"Dw i'n eich annog chi i ddod gyda ni ar y daith yma o obaith a chynnwrf, ddim y siwrne o ofn a digalondid y mae'r Ceidwadwyr yn gynnig."

Roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ymysg y rhai ddaeth i gyfarfod Mr Corbyn ar ei ymweliad a Chaerdydd.

Pan waeddodd aelod o'r gynulleidfa arno i "stopio Brexit", dywedodd Mr Corbyn mai Llafur oedd y blaid i gynnig gobaith a chyfleoedd i bawb.

Polisiau

Fe wnaeth ganmol Llywodraeth Lafur Cymru am ei pholisiau addysg a thlodi plant, gan feirniadu Llywodraeth y DU am gwtogi'r gyllideb i Gymru.

Ychwanegodd y byddai ei blaid yn sicrhau fod pensiynau'n cael eu diogelu ac na fyddai cwmnïau mawr yn cael closio at Adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi.

Dywedodd y byddai Llafur yn "rhoi diwedd ar Brydain glyd" lle roedd y breintiedig "yn rhoi swyddi i'w gilydd".

Roedd Llafur wedi dweud y byddai Mr Corbyn yn defnyddio'r ymweliad i drafod addysg, ar ôl iddo ddweud bod plant yn Lloegr yn cael eu gwasgu i mewn i ddosbarthiadau "enfawr" yn Lloegr.

Cafodd hynny ei feirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gyfrifol am gynyddu maint dosbarthiadau yng Nghymru.

Mae addysg wedi ei ddatganoli i Gymru.

'Crensian dannedd'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn honni y bydd tîm Llafur Cymru yn "crensian eu dannedd" yn ystod yr ymweliad.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr ddal eu gafael ar Ogledd Caerdydd yn 2015 gyda mwyafrif o 2,137.

Image caption Dywedodd Christina Rees mai Llafur yw'r "unig ateb synhwyrol"

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Christina Rees: "Y blaid Lafur yw'r unig ateb synhwyrol i'r Ceidwadwyr, a phleidleisio dros Lafur yw'r unig ffordd o gael gwared â Theresa May a'r Ceidwadwyr o lywodraeth."

Atebodd Mr RT Davies trwy ddweud: "Mae pleidlais dros Lafur yn bleidlais dros fwy o fenthyca, mwy o ddyled, Brexit anhrefnus ac amddiffyn gwannach."

Dywedodd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "O ystyried y gwendid ac anhrefn yn y blaid Lafur, mae'n ffantasi meddwl amdanynt fel llywodraeth Lafur y DU.

"Yng Nghymru fe fydd yr etholiad yma rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr... Plaid Cymru sydd wastad wedi brwydro dros Gymru yn San Steffan ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny."

Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig

Dyw'r rhestr o gadfeysydd gwleidyddol Cymru ddim wedi newid llawer ar hyd y blynyddoedd, gyda rhestr bur faith o etholaethau lle'r oedd Llafur yn cwffio â'r Ceidwadwyr, a set o seddi lle roedd Plaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn herio.

Mae 2017 yn wahanol - os ydy'r polau yn weddol agos ati, ac os na fydd newid yn ystod y saith wythnos nesaf.

Mae'r seddi ymylol traddodiadol fel Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg ac Aberconwy yn ymddangos yn ddiogel yng ngholofn y Ceidwadwyr, tra bod rhai o fancyrs Llafur fel Delyn, Pen-y-bont a Gorllewin Casnewydd o dan fygythiad gan y don las.

Mae'r Ceidwadwyr wedi cipio'r tair sedd olaf yna o'r blaen ond roedd hynny yn ôl yn 1983 yn hirddydd haf Margaret Thatcher - annus mirabilis y Ceidwadwyr Cymreig pan etholwyd 14 o Dorïaid o Gymru.

Mae hyd yn oed yn bosib nad 14 yw'r uchafswm y tro hwn, wrth i lefydd fel De Clwyd a Wrecsam droi'n gystadleuol.

Ac nid y Torïaid yw'r unig bobl sy'n llygadu'r ceiri Llafur. Fe fydd Plaid Cymru yn cwrso yn Ynys Môn, sedd aeth i Lafur o drwch blewyn y tro diwethaf, tra bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awchu am ddial yn eu cyn-gadarnle yng Nghanol Caerdydd.

Ar y cyfan mae'r etholiad yma'n cael ei gynnal ar yr adeg waethaf posib i Lafur, ond o leia' mae'n ymddangos bod y bygythiad gan UKIP yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn pylu.

Ond, ac mae'n ond fawr, mae etholiadau'n bethau rhyfedd ac mae'r amseroedd gwleidyddol yn rhyfeddach fyth. Mae'n bosib y bydd y Ceidwadwyr yn cyrraedd y lan ac y bydd Mrs May yn ennill y fuddugoliaeth fawr y mae'n ei chwennych, ond peidiwch â betio'ch cot ar hynny.

Straeon perthnasol