Achub cenawon llwynogod
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Achub cenau llwynog yn dilyn tân bwriadol

20 Ebrill 2017 Diweddarwyd 20:45 BST

Cafodd cenau llwynog ifanc ei achub yn dilyn tân bwriadol ar dir yn Aberpennar yng Nghwm Cynon.

Cafwyd hyd i gyrff cenawon eraill gerllaw.

Daeth Gavin Thomas o hyd i'r anifeiliaid tra roedd yn cerdded gyda'i gi ac fe aeth a'r cenau at swyddogion yr RSPCA am driniaeth.

Dywedodd yr Arolygydd Gemma Cooper o'r RSPCA fod y cenau wedi bod yn "lwcus" i oroesi'r fflamau.