Aur i Daniel Jervis ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain

Nofio

Mae'r Cymro ifanc Daniel Jervis wedi ennill medal aur yn y ras 1500m dull rhydd ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain yn Sheffield.

Bydd Jervis, sy'n dod o Abertawe, yn dathlu ei benblwydd yn 20 ddydd Llun, ac fe wnaeth ei fuddugoliaeth gyfforddus olygu ei fod nawr yn cael ei ystyried ar gyfer detholion Pencampwriaeth y Byd.

Daeth yn gyntaf nos Iau gydag amser o 14 munud a 51.48 o eiliadau.

Llwyddodd i ennill medal efydd yn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, ac fe ddisgrifiodd ei fuddugoliaeth yn Sheffield ar ôl y ras fel un "anhygoel".