Band ar y dôl

  • 25 Ebrill 2017
Maffia
Image caption Maffia Mr Huws

Fyddai rhywun ddim yn meddwl bod 'na le i ddiolch, yn rhannol, i Margaret Thatcher am un o gyfnodau mwyaf cyffrous y sin roc Gymraeg.

Gyda'r dirwasgiad ar ei anterth ar ddechrau'r 80au a'r dyfodol yn edrych yn bur anobeithiol i nifer o ddisgyblion oedd yn gadael Ysgol Dyffryn Ogwen yn un ar bymtheg oed, doedd 'na fawr i godi ysbryd pobl ifanc ar strydoedd Bethesda.

Ond daeth un criw o hogiau lleol at ei gilydd i wneud yn fawr o'r amser oedd ar eu dwylo a sianelu eu doniau cerddorol i ffurfio un o fandiau mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg - Maffia Mr Huws.

Bydd y stori tu ôl i'w record 12 modfedd arloesol Hysbysebion i'w chlywed yn Bydded Hysbys ar Radio Cymru, Dydd Iau 27 Ebrill.

Un o'r criw oedd yn cadw trefn ar y grŵp ar y dechrau oedd Gwynfor Dafydd sydd bellach yn rheoli'r Ceffylau Lliwgar.

"Ro'n i wedi bod yn y coleg ym Manceinion ac wedi dod yn ôl i Fethesda," meddai. "Ro'n i tua 23 ar y pryd a dim ond tua 16 oedd Gwyn (drymiwr Maffia). Sion oedd yr hynna. Doeddan nhw ddim yn gweithio.

"Roedd y dirwasgiad yn enbyd felly doedd 'na ddim byd i hogia' lleol 'neud adeg hynny ond seinio ar y dôl.

Ffrindia'

"Roeddan nhw'n byw yn yr un tŷ a llwyth o bobl eraill yn byw ac yn bod yno, ond roedd gynnon nhw ddigon o amser i ymarfer a chreu cerddoriaeth.

"Ro'n i wedi gweithio efo band The Frantic Elevators, band cynta' Mick Hucknall o Simply Red, pan ro'n i yn Manceinion felly ro'n i'n gallu helpu'r hogia' efo gigs ac ati."

Mae Gwyn Jones, drymiwr y band yn cofio'r cyfnod yn dda.

"Doedd 'na ddim jobs i drwch y bobl ifanc felly doedd dim amdani ond seinio ar y dôl," meddai Gwyn.

"Roedd rhai yn ffeindio ambell i joban labro bob hyn a hyn ond roedd hi'n galed. Tasa 'na lwyth o yrfaoedd disglair yn ein disgw'l ni ar ôl gada'l ysgol falla 'sa ni 'di setlo i lawr a ffeindio job 'cwshi'.

"Felly ma' 'na beth o ddiolch i Thatcher a'r llywodraeth ar y pryd am Maffia Mr Huws!" chwarddodd.

Image caption Band poblogaidd! Prin oedd 'na amser yn sbar i'r hogia fynd i arwyddo ar y dôl

Yr ochr arall

Wrth i'r gigs gynyddu a llwyddiant y band yn lledaenu tu hwnt i'w milltir sgwâr daeth 'na ergyd fawr i'r band fel yr eglura Gwynfor Dafydd.

"Mi roeddan nhw yn fwy a mwy adnabyddus ond roedd hynny wedi dod i sylw'r swyddfa dôl ac felly mi 'naethon nhw stopio pres yr hogia' am flwyddyn gyfa'.

"Roeddan nhw felly yn gorfod byw ar be' oeddan nhw'n ga'l o'r gigs ond doedd o ddim yn ddigon. Tafarn y King's Head oeddan ni yn ddefnyddio fel canolfan ac yn ystod y cyfnod yma ro'dd yr hogia' yn cael 'tabs' gan Meurig y tafarnwr.

"Roeddan nhw yn ei dalu fo'n ôl yn raddol o bres sbar y gigs. Weithia' pan oedda nhw ddim yn g'neud digon roeddan nhw'n talu Meurig mewn dodrefn - cadeiriau a ballu roeddan nhw wedi ca'l gafael arnyn nhw tra'n teithio Cymru yn y fan! Roedd 'na gasgliad eclectig iawn o ddodrefn yn y King's Head!"

Image copyright Meirion/Geograph
Image caption Roedd 'na gasgliad "eclectig" o ddodrefn yn y dafarn ar un adeg, diolch i hogia' Maffia

Nid diwedd y gân

Mae Gwyn yn gwerthfarwogi haelioni pobl y pentre' a thu hwnt yn y cyfnod yma.

"Roedd y fraud squad yn meddwl ein bod ni'n pocedu pres y gigs ond doedd hynny ddim yn wir," meddai.

"Roedd pob peth roeddan ni yn ga'l yn cael ei roi nôl yn y band - skins newydd i'r dryms, strings gitâr, petrol yn y fan a thalu am amps. Yr unig bres arall oedd i brynu cyris a chwrw tra roeddan ni'n crwydro Cymru.

"Roeddan ni weithia' yn cael chips am ddim gan Magi oedd yn rhedag y siop chips ac roedd y genod oedd yn rhedeg y ffan clyb yn y De yn anfon bocsus bwyd i ni! Roeddan ni yn llythrennol yn skint.

"Naethon ni berswadio'r awdurdodau yn diwedd bod ni ddim yn twyllo a mi gawsom ni rebate eitha' da ymhen y flwyddyn."

Yn y cyfnod yma hefyd y daeth Bethesda yn ganolfan boblogaidd flynyddol i'r sin roc Gymraeg. Gwynfor Dafydd oedd un o'r rhai tu ôl i sefydlu yr ŵyl gerddorol Pesda Roc, er enghraifft.

"Roedd hi'n costio tua £5000 i gynnal yr ŵyl ac roedd yn para' am benythnos cyfa'," meddai.

"Ond roeddan ni'n lwcus os oeddan ni'n g'neud £50 o elw ar y giât. Roeddan ni yn defnyddio'r pres hwnnw i brynnu ambell beint i'r gwirfoddolwyr a'r unigolion oedd wedi ein helpu ni."

Bydd aelodau gwreiddiol Maffia yn ôl ar lwyfan Pesda Roc yn Neuadd Ogwen y penwythnos hwn - 29 a 30 Ebrill. Mae Gwyn yn cofio awyrgylch cynnar yr ŵyl:

"Mi fysa' hi wedi bod yn ormod i ni fel band fod yn y clwb rygbi drw'r dydd. Mi fysan ni ma'n siŵr wedi cyfarfod nifer o ffrindiau ac wedi yfed gormod.

"Dwi'n cofio gadael y tŷ tua 9 yn nos i fynd lawr i 'neud y gig. Roedd hi'n mayhem llwyr, poteli gwag dros y lle a phobl yn cysgu ar y stryd. Roedd rhei eraill unai'n ffraeo neu'n ca'l andros o hwyl! Roedd o'n uffar' o sbort.

"Roedd o'n gyfnod pwysig i'r pentre'. Pan oeddan ni wrthi roedd 'na saith neu wyth o fandiau lleol yn gigio yn rheolaidd a mi na'th 'na ragor ddechra' wedi hynny - grwpiau fel Jecsyn Ffeif a 'chydig yn ddiweddarach Ffa Coffi Pawb a Tynal Tywyll.

"Ar y pryd dwi'n meddwl ein bod ni fel bandiau wedi rhoi mwy o asgwrn cefn i'r iaith Gymraeg na phetha fel y theatr, opera a'r Cyngor Llyfrau. Roedd o'n digwydd ar y stryd ac yn dylanwadu mwy ar bobl ifanc i ddefnyddio'r iaith."

Image copyright Nici Beech
Image caption Roedd Gruff Rhys (canol) o'r Super Furry Animals ymhlith y cerddorion ifanc gafodd eu dylanwadu gan lwyddiant Pesda Roc a Maffia Mr Huws

(Mae'r erthygl yn seiliedig ar ddeunydd gafodd ei gasglu ar gyfer y rhaglen Bydded Hysbys. Diolch i Dai Lingual am rannu'r cyfweliadau)