Prynu mynydd yng Nghefn Coch yn cynnig 'cyfle unigryw'

Cefn Coch

Mae dwy elusen amgylcheddol yn gobeithio prynu mynydd yng nghanolbarth Cymru er mwyn arbrofi gyda "dull gwahanol o gadwraeth".

Mae 300 erw o dir, oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i bori defaid, ar werth yng Nghefn Coch ger Machynlleth.

Nod Coed Cadw a Sefydliad Tir Gwyllt Cymru yw troi'r safle yn hafan ar gyfer rhywogaethau prin fel y pathew, y wiwer goch a bele'r coed.

Byddan nhw'n plannu 5,000 o goed cyn gadael i'r tirwedd ddatblygu yn naturiol.

'Cyfle unigryw'

Yn ei stad bresennol, mae'r mynydd wedi'i ddisgrifio gan yr elusennau fel tir sydd wedi'i "esgeuluso a'i ddiraddio'n ecolegol".

Mae'r safle wedi'i orchuddio a chymysgedd o laswelltydd a brwyn.

Mae'n cynnig "cyfle unigryw i wneud rhywbeth gwahanol" yn ôl Rory Francis o elusen Coed Cadw yng Nghymru.

"Ry'n ni'n bwriadu defnyddio prosesau naturiol i adfer y tirwedd i goedtir agored gyda mosaig o wahanol gynefinoedd."

Er mwyn dechrau ar y broses o adfywio'r mynydd, bydd rhywogaethau cynhenid o goed fel y fedwen, yr helygen a'r gerddinen yn cael eu plannu ger y copa.

Byddan nhw wedyn yn darparu hadau fel bod mwy o goed yn medru tyfu a'r safle'n medru datblygu yn naturiol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rory Francis o Coed Cadw yn esbonio eu cynlluniau ar gyfer y mynydd

Y gobaith yw y bydd dros draean o Gefn Coch yn cael ei orchuddio gan goetir cynhenid yn ystod yr 20 mlynedd nesa, a bydd mamaliaid ac adar prin fel y gylfinir a'r troellwr yn dychwelyd.

Y bwriad hefyd yw i'r cyhoedd allu defnyddio'r safle, sy'n cynnig golygfeydd arbennig o Eryri, ar gyfer cerdded, beicio a mwynhau bywyd gwyllt.

Gallai gwaith archeolegol ddigwydd ar y mynydd hefyd, i ymchwilio i hanes yr ardal.

Dyma'r prosiect cynta' fel rhan o gynllun hir dymor i greu rhwydwaith o goetiroedd gwyllt ar draws mynyddoedd y Cambria, y tirwedd eiconig sydd wedi denu cynulleidfa newydd drwy gyfres ddrama BBC Cymru 'Y Gwyll'.

Cafodd y ffermdy sy'n ffinio safle Cefn Coch ei ddefnyddio yn ystod ffilmio'r gyfres ddiweddara.

Image caption Yn ôl Sophie Wynne-Jones dyw'r elusen ddim eisiau cyflwyno'r un math o gynllun yn holl ucheldiroedd Cymru

Mae'r ffermwr Joe Hope, sy'n byw yno, yn dweud ei fod e'n "gyffrous ofnadwy" ynglŷn â'r cynllun.

Fel ecolegydd ei hun mae'n dweud iddo sylwi ar y ffordd y mae ardaloedd o goedtir cynhenid wedi prinhau dros amser a hynny wedi arwain at golledion o ran bioamrywiaeth hefyd.

Syniad dadleuol

"Er mwyn gwneud rhywbeth ynglŷn â'r broblem mae'n rhaid i ni warchod y coetiroedd sydd gennym ni, ond hefyd ailgysylltu pocedi o fforest a chreu rhwydweithiau - fel bod gan rywogaethau gyfle i symud o un i'r llall."

Mae'r syniad o ddiddofi tirweddau, a'u troi yn llefydd gwyllt - fel sy'n cael ei annog gan yr amgylcheddwr George Monbiot ac eraill - yn un dadleuol, gyda rhai ffermwyr yn poeni am yr effaith ar eu bywoliaethau.

Mae'r pwnc yn un rhan o'r drafodaeth ynglŷn â dyfodol ffermio ym Mhrydain ar ôl Brexit, gydag adolygiad yn debygol o'r cymorthdaliadau sy'n cefnogi ffermwyr ar ucheldiroedd Cymru.

Ond mynnodd Sophie Wynne-Jones o Sefydliad Tir Gwyllt Cymru nad oedd yr elusen am weld "holl ucheldir Cymru yn cael ei ddiddofi a'i droi'n goedwigoedd".

"Mae gen i lot o gydymdeimlad a pharch tuag at yr hyn mae ffermwyr yn ei wneud," meddai, "a dy'n ni ddim yn dweud y dylai'r hyn y'n ni am ei wneud yn fan hyn ddigwydd ym mhob man."

Image caption Mae'r elusennau angen codi £150,000 cyn diwedd mis Mai er mwyn prynu'r tir

"Mae hyn yn ond un ardal lle gallwn ni drio rhywbeth gwahanol a rhoi cyfle i fyd natur anadlu a thyfu."

"Ond efallai bod lot o ffermwyr yn ystyried trio rhywbeth newydd.

"Ac os gallwn ni ddangos i bobl fod hwn yn opsiwn - ac yn denu pobl a thwristiaid - yna mae'n rhoi cyfle iddyn nhw ystyried pa fath o ddyfodol y maen nhw isie ar gyfer eu tir."

Mae'r elusennau wedi derbyn rhodd anhysbys o £200,000 tuag at y prosiect ond yn dal i orfod trio codi £150,000 cyn diwedd mis Mai er mwyn prynu'r tir.

Dywedodd Rory Francis o Coed Cadw eu bod yn ffyddiog o gyrraedd y targed - "fe allen ni wneud rhywbeth wirioneddol wych yn fan hyn - a rhoi'r ardal hon ar y map."