Geraint Thomas yn ennill ras y Tour of The Alps

Geraint Thomas Image copyright Rex Features

Mae Geraint Thomas wedi ennill ras Tour of The Alps ar ôl dod yn drydydd yn y cymal olaf.

Y Cymro yw'r seiclwr cyntaf erioed o Brydain i ennill y ras, sydd yn cael ei chynnal dros bum niwrnod yn Awstria a'r Eidal.

Daeth Thibaut Pinot o Ffrainc yn ail a Domenico Pozzovivo yn drydydd.

Bydd Thomas, sydd yn 31 oed, yn arwain Team Sky am y tro cyntaf fis nesaf yn ras y Giro d'Italia.