Twneli'r Ail Ryfel Byd yn Rhydymwyn yn agor i'r cyhoedd

Twneli Rhydymwyn Image copyright Cymdeithas Hanes Dyffryn Rhydymwyn

Mae twneli ar hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd yn Sir y Fflint yn cael eu hagor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn.

Mae Cymdeithas Hanes Dyffryn Rhydymwyn wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd i gael mynediad diogel i'r twneli ger Yr Wyddgrug, oedd yn storio nwy mwstard yn yr 1940au.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU - perchennog y safle - gynnal gwaith i alluogi i'r twneli agor dros y penwythnos.

Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Colin Barber bod y twneli wedi bod yn "ddirgelwch" i bobl leol am flynyddoedd.

"Mae 'na lawer o bobl sydd wedi byw yma gydol eu bywydau sydd heb fod i mewn yno," meddai.

Mae taith gyhoeddus yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn ar hyd llwybr sydd wedi'i osod yn arbennig.

Fe fydd pum taith o'r fath eleni.