Dearden yn serennu i Sir Gaerlŷr yn erbyn Morgannwg

Harry Dearden Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Harry Dearden ei ymddangosiad cyntaf i Sir Gaerlŷr ym mis Medi 2016

Sgôr gorau ei yrfa hyd yn hyn i Harry Dearden oedd yr uchafbwynt i Sir Gaerlŷr wrth iddyn nhw gyrraedd 275-5 ar ddiwedd y diwrnod cyntaf yn erbyn Morgannwg.

Fe wnaeth y batiwr 19 oed daro 87 rhediad cyn cael ei fowlio gan y troellwr Andrew Salter.

Ond gallai fod wedi bod yn wahanol iawn i Forgannwg, wnaeth golli cyfle i gael Dearden allan, ag yntau ar un rhediad yn unig.

Bydd y ddau dîm yn awyddus i gael buddugoliaeth dros y dyddiau nesaf, wedi i'r ddau golli eu dwy gêm agoriadol gyda pherfformiadau gwael.