Uwchgynghrair Lloegr: Abertawe 2-0 Stoke

Fernando Llorente Image copyright PA

Mae gobeithion Abertawe o aros yn yr uwch gynghrair yn dal yn fyw wedi buddugoliaeth allweddol yn erbyn Stoke.

Mae'r canlyniad yn rhoi diwedd ar chwe gêm heb eu hennill gan yr Elyrch.

Fernando Llorente gafodd y gôl gyntaf efo peniad i'r tîm cartref a hynny wedi 10 munud.

Daeth Stoke o fewn trwch blewyn i'w gwneud hi'n gyfartal yn yr ail hanner gyda chic o'r smotyn. Ond fe drawodd Marko Arnautovic y bêl ymhell dros y bar.

O fewn ychydig eiliadau roedd cefnogwyr Abertawe ar eu traed yn dathlu gôl arall, y tro yma ergyd o bell gan Tom Carroll gafodd ei gwyro i'r rhwyd gan neb llai nag un o gyn chwaraewyr Abertawe - Joe Allen.

Er bod yr Elyrch wedi cipio triphwynt pwysig mae buddugoliaeth Hull yn golygu bod Abertawe yn dal ar waelodion y tabl gyda phedair gêm ar ôl tan ddiwedd y tymor.