Y Bencampwriaeth: Wigan Athletic 0-0 Caerdydd

  • 22 Ebrill 2017
Pel droed Image copyright Huw Evans picture agency

Fe fethodd y naill dîm sgorio yn y gêm rhwng Wigan a Chaerdydd.

Wigan oedd yn rheoli yn yr hanner cyntaf ac er mai distaw oedd y chwarae nhw oedd yn haeddu bod ar y blaen.

Ac fe ddaethon nhw yn agos gyda Craig Morgan yn ergydio fodfeddi heibio'r gôl.

Roedd chwaraewyr y ddau dîm yn methu taro'r targed ac er i gyfle arall ddod i Wigan ddaeth yna ddim goliau.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn parhau yn y 13eg safle ond yn tynghedu Wigan Athletic, fwy na thebyg, i ddychwelyd yn ôl yn syth i Adran Un.