Wrecsam 0-1 Dagenham & Redbridge

  • 22 Ebrill 2017
Paul Benson Image copyright Getty Images
Image caption Paul Benson gafodd y gôl i Dagenham

Colli oedd hanes Wrecsam wedi unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf yn erbyn Dagenham & Redbridge.

Fe ddaeth y gôl i'r ymwelwyr wedi 23 munud.

Fe wellodd perfformiad Wrecsam yn yr ail hanner ac fe ddaeth cyfleoedd yn hwyr yn y gêm i Dagenham hefyd.

Ond ddaeth na ddim gôl arall a cholli gartref felly oedd hanes y Cochion yn eu gêm gynghrair olaf ar y Cae Ras y tymor hwn.