Adran Dau: Casnewydd 1-0 Accrington Stanley

  • 22 Ebrill 2017
Casnewydd

Bydd cefnogwyr Casnewydd yn ochneidio enaid o ryddhad wedi buddugoliaeth bwysig yn erbyn Accrington Stanley.

Ryan Bird gafodd yr unig gôl wedi 60 munud.

Chwe wythnos yn ôl mi oedd pethau yn edrych yn ddu iawn i'r tîm cartref ond dyma'r bedwaredd gêm allan o bump iddyn nhw ennill yn yr wythnosau diwethaf.

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod nhw allan o'r ddau safle isaf ar waelod y tabl.

Os byddan nhw yn curo Carlisle ddiwedd y mis mae ganddyn nhw obaith go iawn o aros yn Adran Dau.