Morgannwg yn ymladd yn ôl yn erbyn Sir Gaerlŷr

Criced Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Morgannwg ymladd yn galed ar ail ddiwrnod y gêm yn erbyn Sir Gaerlŷr ar ôl i'r tîm catref sgorio 420 yn eu batiad cyntaf.

Nick Selman, eu batiwr agoriadol, oedd yr arwr wedi iddo sgorio can rhediad - ei drydydd cant mewn cricied dosbarth cyntaf.

Sgoriodd Colin Ingram wedyn 84 heb fod allan gyda dwy chwech a 12 pedair oddi ar 153 pêl.

Y sgôr i Forgannwg ar ddiwedd yr ail ddiwrnod felly oedd 281 am 4.