Teulu dyn wnaeth farw yn Aberfan yn rhoi teyrnged iddo

Arwydd

Mae teulu'r dyn wnaeth farw wrth deithio ar feic modur yn Aberfan wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Andrew Lewis o Aberfan yn 23 oed.

Dywedodd ei deulu: "Roedd pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu ac mae'r teulu wedi eu synnu ac wedi torri eu calonnau wedi marwolaeth drasig Andrew."

Roedd Mr Lewis yn teithio ar feic modur BMW F650 pan wnaeth y beic wrthdaro gyda char Ford toc cyn 17:00 ddydd Sadwrn yn Aberfan.

Mae gyrrwr y beic modur, dyn 26 oed, yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Dyw'r fenyw oedd yn gyrru'r car ddim wedi ei hanafu.