Etholiad: Leanne Wood ddim am sefyll yn Y Rhondda

  • 24 Ebrill 2017
Leanne Wood Image copyright Plaid Cymru
Image caption Fe gafodd Leanne Wood ei hethol yn AC Y Rhondda yn 2016

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Rhondda yn yr etholiad cyffredinol.

Daeth cadarnhad yn hwyr nos Sul ar ôl i Ms Wood, sy'n Aelod Cynulliad i'r etholaeth, ddweud ei bod yn rhoi "ystyriaeth fanwl" i'r posibilrwydd o ymgeisio am sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 8 Mehefin.

Chris Bryant yw'r AS presennol i Lafur, mewn sedd sydd wedi bod yn gadarnle traddodiadol i'r blaid.

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi cadarnhau bod y cyn-arweinydd, Ieuan Wyn Jones, yn ymgeisio ar gyfer enwebiad y blaid ar Ynys Môn.

Mr Jones oedd Aelod Seneddol Môn o 1987 i 2001, a bu'n Aelod Cynulliad rhwng 1999 a 2013.

Albert Owen o'r blaid Lafur yw AS presennol yr ynys, wedi iddo gael ei ethol gyda mwyafrif o 229 yn unig yn etholiad cyffredinol 2015.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths yn dweud wrth raglen Post Cyntaf nad yw'n synnu fod Leanne Wood wedi'i themtio i sefyll