Ieuan Wyn Jones: 'Sefyll i fyny dros Gymru'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ieuan Wyn Jones: 'Sefyll i fyny dros anghenion Cymru'

24 Ebrill 2017 Diweddarwyd 16:33 BST

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn ymgeisio ar gyfer enwebiad y blaid ar Ynys Môn er mwyn brwydro am y sedd yn yr etholiad cyffredinol.

Mr Jones oedd Aelod Seneddol Môn o 1987 i 2001, a bu'n Aelod Cynulliad rhwng 1999 a 2013.

Albert Owen o'r blaid Lafur yw AS presennol yr ynys, wedi iddo gael ei ethol gyda mwyafrif o 229 o bleidleisiau yn etholiad cyffredinol 2015.

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi penderfynu ymgeisio am yr enwebiad oherwydd bod angen i rywun "sefyll i fyny i siarad dros anghenion Cymru" mewn cyfnod gwleidyddol "eithriadol a digynsail".