Dyn yn pleidio'n euog i geisio llofruddio perchenog siop

Siop Image copyright Deeside.com

Mae dyn wedi pledio'n euog i geisio llofruddio perchenog siop yn dilyn lladrad.

Roedd Matthew Liam Whelan wedi cyfaddef cyhuddiad o anafu bwriadol mewn gwrandawiad cynharach ond roedd wedi gwadu ceisio llofruddio.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun fe gyfaddefodd Whelan o Mancot, Sir y Fflint iddo geisio llofruddio Imtiaz Ul Haq, 58 oed, yn siop Costcutters, Queensferry, ar ddydd Iau 8 Rhagfyr.

Roedd hefyd wedi cyfaddef cyhuddiad o ladrata.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn dilyn achos llys ei gyd ddiffynydd Leslie Peter Baines.

Mae Baines, 47, o Gei Connah, yn gwadu cyhuddiad o ladrata ac fe fydd yn wynebu achos llys fis nesaf.

Daw'r cyhuddiadau yn dilyn lladrad mewn siop pan ddioddefodd y perchenog anafiadau difrifol i'w wddf oedd wedi eu hachosi gan gyllell yn ystod cythrwfl.