Nofio: Pump o Gymru yng ngharfan Pencampwriaeth y Byd GB

Georgia Davies Image copyright Adam Pretty
Image caption Fe enillodd Georgia Davies ddwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain yn ddiweddar

Mae pum nofiwr o Gymru wedi eu cynnwys yng ngharfan GB ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd yn Budapest.

Bydd Jazz Carlin, Georgia Davies, Alys Thomas, Daniel Jervis a Calum Jarvis i gyd yn rhan o dîm Prydain fydd yn cystadlu am fedalau yn ystod yr haf.

Ni chafodd Chloe Tutton ei chynnwys yn y garfan.

Bydd y pencampwriaethau'n cael eu cynnal rhwng 14 a 30 Gorffennaf.