Cwpan y Byd 2019: Tîm merched Cymru i chwarae Lloegr

Tîm merched Cymru

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019 yn Ffrainc.

Cafodd yr enwau eu tynnu allan o'r het ym mhencadlys UEFA yn y Swistir ddydd Mawrth.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr, Rwsia, Bosnia-Herzegovina a Kazakhstan yn Grŵp 1.

Bydd enillwyr y saith grŵp yn mynd i'r rowndiau terfynol, gyda'r pedwar tîm gorau yn yr ail safle yn mynd ymlaen i'r gemau ail gyfle a chystadlu am yr wythfed lle yn y rowndiau terfynol.

Bydd y gêm gyntaf yn cael ei chwarae fis Medi gyda'r rowndiau terfynol i'w chwarae yn haf 2019.

Trefn gemau Cymru:

17 Medi 2017 - Kazakhstan v Cymru

24 Hydref 2017 - Rwsia v Cymru

24 Tachwedd 2017 - Cymru v Kazakhstan

28 Tachwedd 2017 - Bosnia-Herzergovina v Cymru

6 Ebrill 2018 - Lloegr v Cymru

7 Mehefin 2018 - Cymru v Bosnia-Herzegovina

12 Mehefin 2018 - Cymru v Rwsia

31 Awst 2018 - Cymru v Lloegr