Cadw'r iaith ar gof a chadw

  • 26 Ebrill 2017
Craig yr Ebol, Porth Tywyn, Tudweiliog Image copyright Elfed Gruffydd
Image caption Craig yr Ebol, Porth Tywyn, Tudweiliog

Beth sydd mewn enw? Mae'n bwnc sydd wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ddiweddar ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod galwad Dr Dai Lloyd AC i gael deddf newydd i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Ond mae 'na ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau nad yw enwau Cymraeg cynhenid yn diflannu am byth.

Ymhlith y grwpiau a'r unigolion sydd ar flaen y gâd yn y gwaith hwn mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Yn rheolaidd, mae'r gymdeithas yn cynnal gweithdai mewn sawl rhan o Gymru i geisio diogelu'r dreftadaeth gyfoethog.

Hen enwau Môn sydd dan sylw yn y gweithdy diweddara' fydd yn cael ei gynnal yn Llangefni ar 26 Ebrill.

Pob craig ac ogof

Un o aelodau'r gymdeithas yw Elfed Gruffydd o Bwllheli. Mae'n gyn-brifathro ac wedi bod wrthi yn ddyfal yn casglu hen enwau Cymraeg ardal Llŷn

"Pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn Llŷn, doedd fy nhad ddim yn un mawr am y môr, ond roedd o'n arfer hel crancod yn y pyllau o gwmpas y creigiau ar yr arfordir, a minnau'n arfer mynd hefo fo o dro i dro," meddai.

"Roedd o yn adnabod yr arfordir yn arbennig o dda, ac yn medru enwi pob craig ac ogof yng nghreigiau'r arfordir, a thrwy hynny fe ddatblygodd fy niddordeb i yn yr enwau hefyd.

"Mae yna ambell graig y mae'r rheswm am yr enw sydd iddyn nhw yn amlwg fel Carreg y Ddafad ger Llanbedrog. Mae'n debyg i'r graig gael ei ffurfio pan oerodd ond yn parhau i fod ar ei ffurf dawdd. O ganlyniad cafodd swigod o aer eu dal ynddi â'r rheini'n ffurfio'r 'defaid'.

"Mae eraill a'i henwau yn llai amlwg, fel Craig yr Ebol ar draeth Porth Tywyn, Tudweiliog. Ond yr esboniad am yr enw yw y dywedir bod ôl carn ceffyl y Forwyn Fair arni.

Image copyright Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
Image caption Gwirfoddolwyr yn casglu enwau mewn gweithdy yn Aberdaron

"Mae coel gwlad yn dweud y byddai faint o dywod fyddai wedi codi arni o dymor i dymor yn dynodi beth fyddai prisiau'r farchnad am gynnyrch amaethyddol. Tywod drosti - prisiau isel. Dim syndod felly efallai bod sôn am un creadur yn clirio'r tywod er mwyn i'r prisiau godi!

Mae ffrwyth llafur Elfed Gruffydd wedi ei gyhoeddi yn y gyfrol Ar hyd Ben 'Rallt - Enwau Glannau Môr Penrhyn Llyn.

"Yr un modd gyda rhai o'r enwau sydd i'r ffermydd a'r tyddynnod yn y fro megis Tyddyn Difyr, Tudweiliog sy'n awgrymu hapusrwydd a Tir Dyrus, Rhoshirwaun sy'n awgrymu'r gwrthwyneb o ran hwylustod trin y tir!"

Croen llo

Mae Rhian Parry o Ddolgellau hefyd yn weithgar gyda Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Mae hi'n pwysleisio nad yw'r gwaith wedi ei gyfyngu i'r ardaloedd cefn gwlad yn unig.

"Un o'r darganfyddiadau mwyaf cyffrous yn y blynyddoedd diwethaf i'r gymdeithas oedd pan gaeodd gwaith dur Glyn Ebwy," meddai.

"Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan fyddai'r meistri haearn a dur yn prynu ffermydd er mwyn ecsploetio'r mwyn-haearn a'r glo a oedd o dan wyneb y tir, roedden nhw'n llunio mapiau.

"Cafodd tua dwsin a mwy o ffermydd eu prynu gan gwmni Harford ac yn dilyn eu prynu, byddai'r diwydianwyr yn cofnodi enwau'r ffermydd a'r caeau mewn dogfennau ar groen llo a llunio mapiau hardd.

Image copyright Archifau Gwent/EVAT
Image caption Map o Fferm Dyffryn Uchaf, Glyn Ebwy, gafodd ei lunio gan gwmni Harford ym 1816

"Bu'r mapiau a'r dogfennau rheini mewn cistiau ac ar silffoedd swyddfeydd y gwaith am flynyddoedd heb dynnu sylw. Yn ystod y chwalu mawr ddaeth i ran y gweithfeydd dur ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif roedd y dogfennau yma ar eu ffordd i'r sgip.

"Fodd bynnag, mi gawson nhw eu hachub gan rai o'r gweithwyr dur a sylweddolodd cymaint o drysor a oedd yma. Yn eu plith, mae'r map o fferm Dyffryn Uchaf (uchod) gafodd ei lunio ym 1816.

"Mae'r mapiau a'r dogfennau bellach wedi eu storio yn Archifau Gwent, ac mae'r cyn-weithwyr dur wedi bod yn gweithio'n wirfoddol yno er mwyn catalogio'r dogfennau.

"Yr hyn sy'n wych yw'r drysorfa o enwau sydd ar y mapiau sy'n dangos ardal mor Gymreigaidd oedd Glyn Ebwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."

Enwau bro'r steddfod

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag Ynys Môn yr haf 'ma, mae'r gymdeithas yn awyddus i roi 'chydig o sylw i enwau Cymraeg yr ardal fel yr eglura Rhian Parry.

"Er bod yna fapiau degwm o Ynys Môn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n nodi enwau rhai o'r caeau, dim ond rhyw 18% o gyfanswm y caeau sy'n cael eu henwi yno," meddai. "Mae yna fylchau mawr ar ein map digidol felly.

"Dyna pam ein bod ni'n gobeithio denu pobl yr ynys draw i'n digwyddiad yn Archifau Môn ar gyrion Llangefni yr wythnos hon. Yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth aruthrol yw pan fo pobl yn medru galw heibio a nodi'r enw y maen nhw yn ei gofio am gae penodol neu nodwedd daearyddol arall ar ein map digidol.

"O dipyn i beth wedyn, mae'r map digidol yn cael ei lenwi, a'r enwau traddodiadol ar gaeau a chreigiau ac ati o fewn bro benodol, yn cael eu rhoi ar gof a chadw.

"Y gwir yw bod yr enwau yma mewn perygl o ddiflannu am byth os na chawn nhw eu cofnodi.

"'Dyn ni'n llai sefydlog 'na chenedlaethau'r gorffennol felly dyw'r arferiad o drosglwyddo enwau ymlaen i'r genhedlaeth nesaf ddim yn digwydd mor gyson. Felly rŵan ydy'r amser i fynd ati a nodi'r enwau yma ar ein map digidol cyn iddyn nhw gael eu anghofio a diflannu am byth."

Image copyright Jeff Buck/ Geograph
Image caption Cable Bay yw'r traeth prydferth hwn ar Ynys Môn i nifer o ymwelwyr ond Porth Trecastell yw ei enw Cymraeg