Theresa May eisiau'r 'cytundeb gorau posib' i Gymru

  • 26 Ebrill 2017
Theresa May Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Theresa May yn ymweld â Phen-y-bont ddydd Mawrth

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud ei bod eisiau dod o hyd i farchnadoedd newydd i fusnesau o Gymru yn dilyn Brexit.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ei bod eisiau'r "cytundeb gorau posib" i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Yn y cyfamser, mynnodd Mrs May mai mater i'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad oedd sefyllfa cyn-aelod UKIP, Mark Reckless, a'r drafodaeth ynglŷn â'i ganiatáu i gael eistedd â'r Ceidwadwyr yn y Senedd.

Daw ei sylwadau wedi ei hymweliad â Chymru ddydd Mawrth - ymweliad gafodd ei ddisgrifio gan Lafur fel "stynt".

'Cryfhau fy sefyllfa'

Mewn cyfweliad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales ddydd Mercher, dywedodd Mrs May: "Nid yn unig ydw i eisiau'r cytundeb masnach gorau gyda'r Farchnad Sengl Ewropeaidd ar gyfer busnesau a ffermwyr Cymru a'r Deyrnas Unedig, 'dwi hefyd eisiau i ni agor marchnadoedd newydd ar draws y byd i bobl yma yng Nghymru gael masnachu gyda nhw.

"Bydd pob pleidlais i mi a'r Ceidwadwyr yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn bleidlais fydd yn cryfhau fy sefyllfa yn y trafodaethau pwysig hynny."

Image caption Cafodd Mark Reckless ei groesawu gan Andrew RT Davies wedi iddo adael UKIP

Cyn i Mrs May gyhoeddi'r etholiad cyffredinol, fe ddatblygodd ffrae ym Mae Caerdydd wedi i'r Aelod Cynulliad, Mark Reckless, adael UKIP ac ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad fel aelod annibynnol.

Pan ofynnwyd iddi a oedd ganddi hyder yn arweinyddiaeth Andrew RT Davies, dywedodd Mrs May: "Andrew Davies yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad."

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn gwneud gwaith da yn y Cynulliad Cenedlaethol. Nhw sydd i ddewis pwy sy'n eistedd gyda nhw.

"Mae Mark Reckless yn aelod annibynnol o'r Cynulliad."

Image caption Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod Llafur yn cynnig gobaith

Ddydd Mawrth, disgrifiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones benderfyniad Mrs May i ymweld â chadarnle'r Blaid Lafur fel "stynt".

Dywedodd ei fod yn bwysig i bobl "weld y Torïaid am yr hyn ydyn nhw, eu syniad nhw o arwain yw dweud dim a gwneud dim".

"Rydyn ni eisiau cynnig gobaith," meddai, "a dweud wrth bobl nad oes rhaid i bethau fod fel hyn."

'Llwydni i genedlaethau'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams na fyddai ei blaid yn caniatáu "dinistriad bwriadol o ddiwydiant Cymru a chreu llwydni i genedlaethau o bobl ifanc".

"Bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad yma," meddai. "Dyw'r blaid Lafur gwan a rhanedig ddim yn barod i ffurfio llywodraeth felly mae'r etholiad yma am yrru'r bobl gryfaf i San Steffan i sefyll i fyny yn erbyn y Torïaid i amddiffyn Cymru.

"Plaid Cymru yw'r unig blaid fydd yn sefyll i fyny yn San Steffan a sicrhau bod gwaith y llywodraeth yn gweithio dros Gymru, nid de-ddwyrain Lloegr yn unig."

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol bod Brexit eisoes yn cael effaith yng Nghymru.

"Mae'r etholiad yma yn gyfle i newid cyfeiriad y wlad ac atal Brexit caled," meddai.