Galw i beidio cyd-addoli mewn ysgolion
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw i gael gwared ar gyd-addoli mewn ysgolion

26 Ebrill 2017 Diweddarwyd 08:35 BST

Mae dwy ferch o Gaerdydd wedi dechrau deiseb er mwyn ceisio annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gyd-addoli mewn ysgolion.

Ar ôl cael llond bol ar gyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd, mae Rhiannon a Lily yn dweud ei bod hi'n bryd i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac ysgolion ar draws Cymru gyfan "foderneiddio".

Rhodri Llywelyn aeth am sgwrs â'r ddwy.