Gwahardd Taylor am ddwy gêm ar ôl torri coes Coleman

  • 26 Ebrill 2017
neil taylor Image copyright Getty Images

Mae Neil Taylor wedi cael ei wahardd am ddwy gêm ryngwladol yn dilyn ei gerdyn coch yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mawrth.

Cafodd Taylor ei anfon o'r maes yn dilyn y dacl a dorrodd goes amddiffynwr Gweriniaeth Iwerddon, Seamus Coleman yn yr ornest yn Nulyn a orffennodd yn ddi-sgôr.

Yn dilyn cyfarfod o banel disgyblu FIFA, penderfynwyd ychwanegu at yr un gêm o waharddiad yr oedd eisoes wedi ei dderbyn am y cerdyn coch.

Bydd yr amddiffynnwr nawr yn methu gemau Cymru oddi cartref yn Serbia ym mis Mehefin, a gartref yn erbyn Awstria ym mis Medi.