Davies: 'Dylai darlledwyr fod fwy atebol i'r Cynulliad'

  • 26 Ebrill 2017
alun davies

Dylai darlledwyr Cymreig fod yn fwy atebol i'r Cynulliad, yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol dros ddarlledu.

Rhybuddiodd Alun Davies fod y cyfryngau yng Nghymru yn "gwanhau", a bod diffyg atebolrwydd yn rhan o'r rheswm pam.

Ond wnaeth o ddim datgan yn benodol ei fod am weld darlledu'n cael ei ddatganoli, mewn araith i gynhadledd ar y cyfryngau yng Nghaerdydd.

"Rydw i'n poeni ac yn pryderu fod gan Gymru wasg gynhenid sy'n gwanhau," meddai.

'Dim datganoli'

"A dwi'n bryderus nad oes gennym ni wastad y strwythurau sydd yn ein galluogi ni i gael sgwrs, oni bai am yn anffurfiol. Y strwythurau ffurfiol o atebolrwydd a rheoleiddio, a'r strwythurau i weithredu polisi.

"Mae'n rhywbeth sydd angen i ni sylweddoli, rhywbeth sydd angen i ni drafod. Nid yn unig o fewn y llywodraeth neu'r Cynulliad, ond o fewn cymdeithas yn ehangach."

Dywedodd Mr Davies y dylai'r Cynulliad gael rhan fwy wrth ddwyn cwmnïau cyfryngol i gyfrif.

"Dydw i ddim yn gwneud yr achos dros ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru neu i Lywodraeth Cymru," meddai.

"Ond rydw i'n dadlau y dylai atebolrwydd dros ddarlledu gael ei rannu ar draws sefydliadau'r DU."

Image caption Mae'n bryd ailfeddwl y ffordd mae pobl yn cael eu newyddion yn yr oes ddigidol, meddai Ruth McElroy

Mae penaethiaid darlledu weithiau'n rhoi tystiolaeth gerbron pwyllgorau Cynulliad sydd yn edrych ar y cyfryngau yng Nghymru, ond does dim trefniadau swyddogol sydd yn eu gorfodi i ymddangos.

Ers adnewyddu siarter y BBC mae Llywodraeth Cymru wedi cael mwy o lais ym mhenodiad y cynrychiolydd Cymreig ar fwrdd y BBC, ac fe gafodd hynny ei ddefnyddio pan wnaethon nhw atal penodiad Dr Carol Bell yn gynharach eleni.

Dywedodd Dr Ruth McElroy, darlithydd cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru, fod y cyfryngau traddodiadol yng Nghymru wedi dirywio wrth i'r diwydiant addasu i heriau newydd.

"Rydyn ni wedi gweld llawer o bapurau newydd lleol yn cau. Mae hynny wedi bod yn thema ers sbel, ac yn fwy yng Nghymru na gweddill y DU," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n teimlo y dylai gweinidogion fod yn fwy parod i ymyrryd er mwyn cefnogi'r cyfryngau yng Nghymru, gan ddweud bod rhannau eraill o'r byd oedd yn gwneud hynny "nawr yn gweld pethau'n dwyn ffrwyth".