Pennaeth yn gwadu twyllo dwy ysgol yn Wrecsam

Nicholas Hankin Image copyright Andrew Price
Image caption Mae Nicholas Robert Hankin wedi pledio'n ddieuog i dri chyhuddiad

Mae prifathro o ogledd Cymru wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o dwyllo dwy ysgol gynradd yn ardal Wrecsam.

Fe blediodd Nicholas Robert Hankin, 54 oed o Fae Colwyn, yn ddieuog i dri chyhuddiad.

Mae Mr Hankin yn wynebu un cyhuddiad o dwyll yn ymwneud ag Ysgol Tanyfron rhwng 2014 a 2015, a dau yn ymwneud ag Ysgol Gwenfro yn 2015.

Ef oedd pennaeth yr ysgolion dan sylw ar amser y troseddau honedig.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi'i wahardd o'i waith ers 16 mis.

Cafodd Mr Hankin ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl i'w achos ddechrau ar 30 Hydref eleni.