Cyrch cyffuriau Casnewydd: Cyhuddo 20 o bobl

heddlu
Image caption Swyddogion yr heddlu yn defnyddio llif gadwyn i gael mynediad i un adeilad yn ystod y cyrch

Mae 20 o bobl, gan gynnwys tri o fechgyn yn eu harddegau, wedi cael eu cyhuddo yn dilyn cyrch cyffuriau yng Nghasnewydd ddydd Mercher.

Mae'r bechgyn 13 oed, 15, ac 16, ymhlith y rhai oedd a chyffuriau Dosbarth A yn eu meddiant, gyda'r bwriad o'i werthu.

Mae 15 o bobl wedi cael eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn y llys ddydd Iau.

Fe archwiliodd Heddlu Gwent 35 o gyfeiriadau yn y ddinas, ac fe gafodd 25 o bobl eu harestio.

Mae tri o bobl wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad, ac mae dau yn aros i gael eu holi.