Eastleigh 1-1 Wrecsam

  • 29 Ebrill 2017
National League Image copyright Getty Images

Mae Wrecsam wedi gorffen y tymor yn safle 13 yn y Cynghrair Cenedlaethol, gyda Eastleigh yn 15fed, ar ôl gêm ddifflach.

Ychydig iawn o gyfleoedd oedd yn yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth Jordan White roi'r ymwelwyr ar y blaen dwy funud wedi'r egwyl.

Manteisiodd Matt Tubbs ar groesiad James Constable i ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Mae'n golygu fod Wrecsam wedi gorffen y tymor ar nodyn siomedig, gan sicrhau dim ond un buddugoliaeth yn eu pum gêm ddiwethaf.