Ian Evans yn ymddeol o rygbi proffesiynol oherwydd anaf

Ian Evans Image copyright Getty Images

Mae cyn-chwaraewr Cymru, Ian Evans wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi oherwydd anaf i'w ben-glin.

Roedd Evans, 32, yn rhan o garfan Cymru pan enillon nhw'r Gamp Lawn yn 2008 a 2012 yn ogystal â'r Chwe Gwlad yn 2013.

Cafodd 33 o gapiau dros ei wlad, gyda'r olaf o'r rheiny yn dod tair blynedd yn ôl, a bu hefyd yn rhan o daith y Llewod yn 2013.

Treuliodd y clo y rhan helaeth o'i yrfa gyda'r Gweilch, gan ennill cynghrair y Pro12 deirgwaith, cyn symud i Fryste yn 2014.

"Er mod i'n drist fod fy ngyrfa chwarae wedi dod i ben, dwi'n edrych ymlaen at y bennod nesaf a chyfleoedd newydd," meddai wrth wefan swyddogol Bryste.

"Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael gyrfa wych."