Cwpan Undydd: Morgannwg yn trechu Sir Gaerloyw

Criced

Mae Morgannwg wedi trechu Sir Gaerloyw yn eu gornest gyntaf o'r tymor yn y Cwpan Undydd.

Llwyddodd y tîm o Gymru i osod sgôr o 277-7 yn eu batiad, gyda Jacques Rudolph yn gorffen ar 121.

Cafodd targed Sir Gaerloyw ei ostwng i 251 mewn 44 pelawd, yn dilyn rhywfaint o oedi oherwydd glaw ganol y prynhawn.

Ond diolch i fowlio Marchant de Lange a Lukas Carey yn bennaf, llwyddodd Morgannwg i gyfyngu eu gwrthwynebwyr i 232, ac ennill o 18 rhediad.