Enwi ambiwlans fel teyrnged i weithiwr o Wynedd

John Clift Image copyright Llun Teulu
Image caption Roedd Mr Clift "yn adnabyddus ac yn boblogaidd iawn"

Bydd gweithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans o bob cwr o Gymru'n dod at ei gilydd ddydd Gwener i roi teyrnged i gydweithiwr fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau ambiwlans yng Ngwynedd.

Bu farw John Clift, 54 oed, mewn gwrthdrawiad tra roedd yn gyrru ambiwlans gwasanaeth gofal cleifion ger Pwllheli ar 28 Ebrill 2016.

Fe wnaeth tri o bobl eraill, yn cynnwys dau gydweithiwr iddo, ddioddef anafiadau difrifol.

Bydd ambiwlans yn cael ei enwi fel teyrnged iddo yng ngorsaf ambiwlans Pwllheli.

Bydd undeb Unison hefyd yn dadorchuddio mainc fel teyrnged iddo.

Dywedodd Darron Dupre, trefnydd gweithwyr ambiwlans Unison Cymru: "Mae gweithwyr ambiwlans yn dod i'w gwaith bob dydd i achub bywydau a darparu gofal brys yn aml dan amgylchiadau anodd a thrawmatig.

"Mae'r bobl hyn yn gwneud swyddi hanfodol ar gyfer ein cymunedau a heddiw rydym yn galaru dros John a chofio am y cydweithwyr eraill gafodd eu hanafu'n ddifrifol a dathlu eu gwasanaethu cyhoeddus wrth roi cymorth i gleifion yng Nghymru."