Ymchwilio i gefnogaeth mudiad boicot
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Comisiwn yn ystyried cefnogaeth myfyrwyr i fudiad boicot

27 Ebrill 2017 Diweddarwyd 21:58 BST

Mae BBC Cymru yn deall bod y Comisiwn Elusennau yn bwriadu ysgrifennu at Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ynglŷn â'u cefnogaeth i fudiad rhyngwladol sy'n galw am foicotio Israel.

Mae Abertawe yn un o 17 undeb myfyrwyr sy'n cefnogi mudiad BDS, sy'n galw am foicot rhyngwladol o Israel.

Mae'r Comisiwn Elusennau yn ystyried y sefyllfa gan ddweud ei bod hi'n bosib bod yr undeb yn torri'r gyfraith drwy gefnogi'r ymgyrch.

Adroddiad Rhys Williams.