Oedi cyn y gall injan 121 oed ddychwelyd i'r Wyddfa

moel siabod Image copyright Rheilffordd Yr Wyddfa

Roedd disgwyl i injan stêm 121 oed ddychwelyd i gopa uchaf Cymru ddydd Gwener ar ôl gwaith adnewyddu sydd wedi cymryd 17 mlynedd i'w gwblhau.

Mae Loco Rhif 5 Rheilffordd yr Wyddfa, sy'n cael ei hadnabod fel trên Moel Siabod, wedi bod yn destun gwaith adnewyddu "cynhwysfawr" ers y flwyddyn 2000, ac mae'r gwaith wedi costio £60,000.

Ond fe gadarnhodd cwmni Rheilffordd yr Wyddfa fore Gwener fod oedi o dair wythnos arall cyn y gallai'r cerbyd ddechrau rhedeg ar hyd y llwybr i'r copa, gan nad oedd "yr amser yn iawn" iddi.

Fe ddechreuodd y Loco Rhif 5 gludo twristiaid i fyny'r copa 1,085 metr pan agorodd y rheilffordd yn 1896.

Image copyright Rheilffordd Yr Wyddfa

Fe gafodd y Loco Rhif 5 ei hadeiladu ar gyfer y rheilffordd yn 1895 gan y cwmni trenau o'r Swistir, Locomotive & Manufacturing Company, ac fe gafodd ei henwi ar ôl mynydd cyfagos yn Eryri.

"Wrth gwrs, yn hytrach na gorfod dringo i fyny'r 1,085m (3,560tr) i'r copa, y ffordd hawsaf i gael y profiad mwyaf trawiadol yn y DU yw i ymlacio a chymryd y trên," meddai Alan Kendall, rheolwr cyffredinol Rheilffordd yr Wyddfa.

Mae'r llwybr 4.7 milltir (7.6 km) o Lanberis yng Ngwynedd i'r adeilad sydd ar gopa'r Wyddfa, Hafod Eryri, yn denu tua 130,000 o ymwelwyr yn flynyddol.