Etholiad cyffredinol: Cyn-ASau Llafur yn ymgeisio eto

  • 28 Ebrill 2017
aelodau

Mae dau cyn-AS Llafur o Gymru yn gobeithio dychwelyd i San Steffan ym mis Mehefin wrth i'r blaid gadarnhau eu rhestr o 40 o ymgeiswyr Cymreig ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Bydd Chris Ruane yn dychwelyd i ymladd ar gyfer sedd Dyffryn Clwyd a gollodd yn 2015, a hynny ar ôl 18 mlynedd yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Hefyd fe fydd Gareth Thomas yn cystadlu am sedd Gorllewin Clwyd, sedd a gynrychiolodd rhwng 1997-2005.

Ar hyn o bryd mae'r Ceidwadwyr yn dal y ddwy sedd, ac fe fydd James Davies a David Jones yn ceisio'u hamddiffyn.

Mae pob un o'r 40 o ASau Cymreig - 25 ohonynt yn rhai Llafur - yn ceisio cael eu hail-ethol.