Pro12: Gleision 30-24 Zebre

Alex Cuthbert Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Gleision i oroesi pwysau hwyr gan Zebre i sicrhau buddugoliaeth sydd yn eu cadw nhw yn y ras ar gyfer lle yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor nesaf.

Roedd y tîm cartref 23-3 ar y blaen ar yr egwyl diolch i geisiau gan Gareth Anscombe ac Aled Summerhill, gydag Anscombe yn ychwanegu 13 pwynt o drosiadau a chiciau cosb.

Cafodd y bwlch ei gau rywfaint yn dilyn cais gosb i'r Eidalwyr, cyn i Tomos Williams ymestyn mantais y Gleision unwaith eto.

Ond fe frwydrodd Zebre yn ôl, er gwaethaf cerdyn coch i Dario Chistolini, gyda cheisiau gan Maxime Mbanda a Dries van Schalkwyk yn sicrhau pwynt bonws i'r ymwelwyr.