Pro12: Caeredin 24-20 Dreigiau

Hamish Watson Image copyright SNS

Roedd hi'n dorcalon i'r Dreigiau yn yr Alban wrth i Gaeredin sgorio ceisiau hwyr i gipio buddugoliaeth yn y Pro12.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 10-3 ar yr egwyl diolch i gais Pat Howard a throsiad Angus O'Brien, gyda chyn-faswr y Dreigiau Jason Tovey yn llwyddo gyda chic gosb i'r tîm cartref.

Cafodd y fantais ei ymestyn gan gais Carl Meyer ar ddechrau'r ail hanner, cyn i Blair Kinghorn groesi i ddod a Chaeredin yn ôl i mewn i'r gêm gyda deng munud i fynd.

Yna cafwyd diweddglo dramatig wrth i Damian Hoyland dirio gyda thair munud i fynd, cyn i Grant Gilchrist groesi yn symudiad olaf y gêm i sicrhau mai Caeredin oedd yn dathlu.