Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-2 Newcastle

  • 28 Ebrill 2017
Christian Atsu Image copyright Rex Features
Image caption Christian Atsu yn dathlu sgorio gôl gyntaf y gêm

Roedd dwy gôl yn yr ail hanner yn ddigon i drechu Caerdydd wrth i Newcastle gadw'u gobeithion o ennill y Bencampwriaeth yn fyw.

Fe wnaeth Sean Morrison a Junior Hoilett roi'r bêl yn y rhwyd i Gaerdydd yn yr hanner cyntaf ond chafodd yr un o'r goliau eu caniatáu, y cyntaf oherwydd trosedd a'r ail am gamsefyll.

Ar ôl 55 munud fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen o gic rydd Christian Atsu, cyn i Isaac Hayden ddyblu'r fantais ddeng munud yn ddiweddarach.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn aros yn 13eg yn y tabl - er gwaethaf buddugoliaeth Newcastle, bydd Brighton yn ennill y Bencampwriaeth os ydyn nhw'n trechu Bristol City ddydd Sadwrn.