Hamilton i sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

UKIP politician Neil Hamilton Image copyright Getty Images

Mae UKIP wedi dewis Neil Hamilton AC Canolbarth a Gorllewin Cymru i ymladd etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin.

Cafodd ei ddewis mewn cyfarfod o'r gangen leol yn Llandeilo nos Iau.

Mae'n un o saith AC UKIP gafodd eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 ac ef yw arweinydd ei blaid ym Mae Caerdydd.

Plaid Cymru enillodd y sedd yn 2015 gyda mwyafrif o 5,599 a bydd Jonathan Edwards yr AS yn sefyll eto ym Mehefin.

David Darkin, pensaer, fydd yn sefyll dros y blaid Lafur, ddaeth yn ail yn 2015.

Dywed y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw yn disgwyl dewis ymgeiswyr yr wythnos nesaf.

Fe fydd rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr ar gael unwaith i enwebiadau gau ar 11 Mai.

Neil Hamilton oedd AS Ceidwadol Tatton o 1983-97, ac roedd yn weinidog yn Llywodraeth John Major cyn iddo golli ei sedd i'r ymgeisydd annibynnol Martin Bell yn 1997.