Gweilch 24-10 Ulster

Ospreys wing Tom Habberfield dives over for the opening try Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tom Habberfield yn croesi

Fe wnaeth y Gweilch wrthsefyll cryn bwysau yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth sydd fwy na heb yn sicrhau y byddant yn gorffen y tymor yn y pedwar uchaf yn y Pro12.

Croesodd Tom Habberfield a Tyler Ardron yn yr hanner cyntaf i roi'r tîm cartref 14 pwynt ar y blaen.

Ulster oedd yn llwyr reoli yn yr ail hanner, ond fe wnaeth cais Brendan Leonard roi taw ar eu gobeithion.

Daeth cais gysur Jacob Stockdale yn yr eiliadau olaf.

Mae'r Gweilch angen pwynt yn eu gêm olaf er mwyn sicrhau eu bod yn gorffen yn y pedwar uchaf, tra bod angen i Ulster guro Leinster.