Dyn yn wynebu cyhuddiadau terfysgol

Josh Walker
Image caption Bydd Josh Walker o flaen ynadon ar 5 Mai

Mae Prydeiniwr yr honnir iddo ymladd yn erbyn yr hyn sy'n cael ei alw yn Wladwriaeth Islamaidd yn Syria wedi cael ei gyhuddo o droseddau terfysgol.

Fe fydd y dyn 26 oed sy'n byw yn Aberystwyth yn mynd o faen Ynadon Westminster ddydd Gwener 5 Mai.

Mae Josh Walker, sy'n wreiddiol o Fryste, wedi ei gyhuddo o dan Adran 58 o Ddeddf Terfysgaeth 2000 o gasglu neu gofnodi gwybodaeth a all fod o ddefnydd i berson sy'n paratoi neu yn cyflawni gweithred derfysgol.

Fe gafodd ei arestio gan swyddogion Uned Gwrth Derfysgol Cymru ar 29 Rhagfyr ym maes awyr Gatwick wrth iddo ddychwelyd i'r DU.