Connacht 8-30 Scarlets

  • 30 Ebrill 2017
Liam Williams touches down for Scarlets against Connacht Image copyright Rex Features
Image caption Liam Williams yn croesi i'r Scarlets

Fe wnaeth y Scarlets sicrhau eu lle yn gemau'r pedwar olaf i benderfynu pwy fydd pencampwyr y Pro 12 gyda pherfformiad grymus yn Iwerddon.

Roedd yr ymwelwyr wedi sicrhau pwynt bonws o fewn hanner awr gyda dau gais i Steff Evans ac un yr un i Johnny McNicholl a Liam Williams.

Gwellodd Connacht wedi'r egwyl a daeth eu cais yn hwyr yn y gêm gyda DTH van der Merwe yn croesi ar ôl 78 munud.

Golygai buddugoliaeth y Scarlets y byddant yn teithio i Leinster (19 Mai) neu Munster (20 Mai) yn y gêm gynderfynol, ac mae'r fuddugoliaeth hefyd yn golygu diwedd i bob pwrpas i obeithion Ulster o gyrraedd y pedwar olaf.

Y Gweilch sydd yn y pedwerydd safle ar hyn o bryd, pum pwynt ar y blaen i Ulster gyda dim ond un gêm yn weddill.