Manchester Utd 1-1 Abertawe

  • 30 Ebrill 2017
Gylfi Sigurdsson Image copyright Reuters
Image caption Hon oedd gôl gyntfa Sigurdsson (canol) ers mis Chwefror

Fe wnaeth cic rydd wych gan Gylfi Sigurdsson lwyddo i sicrhau pwynt haeddiannol i Abertawe yn Old Trafford yn eu brwydr i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Gwyrodd y dyn o Wlad yr Iâ y bêl o 20 llath heibio wal o amddiffynwyr er mwyn dod ar sgôr yn gyfartal.

Roedd United wedi mynd ar y blaen ar ôl cic gosb ddadleuol Wayne Rooney yn yr hanner cyntaf, gydag Abertawe yn cyhuddo Marcus Rashford o ffugio iddo gael ei faglu.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn symud o fewn dau bwynt i Hull, gyda thair gêm o'r tymor yn weddill. Ddydd Sadwrn bydd Abertawe gartref yn erbyn Everton tra bod Hull yn croesawu Sunderland.