Y Bala 2-1 Seintiau Newydd

  • 30 Ebrill 2017
Y Bala Image copyright S4C

Mae'r Bala wedi ennill Cwpan Cymru a hynny am y tro cyntaf ers eu sefydlu 137 o flynyddoedd yn ôl.

Fe wnaethant guro y cyn ddeiliaid a phencampwyr yr Uwch Gynghrair y Seintiau Newydd 2-1 ar gae Stadiwm Prifysgol Bangor.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r Bala ymddangos yn y ffeinal a bu'n rhaid iddyn nhw frwydo'n galed ar ôl i'r Seintiau -oedd yn gobeithio ennill y gwpan a'r 'treble' am y drydedd flwyddyn yn olynol - fynd ar y blaen.

Kieran Smith sgoriodd y gôl fuddugol gyda llai na thri munud yn weddill.

Ond golwr y Bala, Ashley Morris, gafodd ei enwi fel seren y gêm.

Greg Draper roddodd Y Seintiau ar y blaen ar ôl 55 munud.

Daeth Bala yn gyfartal diolch i ergyd yr eilydd 21 oed, Jordan Evans gyda chwarter awr yn weddill.

Image caption Doedd cyn ddeiliaid y gwpan Y Seintiau Newydd erioed wedi colli gêm yn erbyn y Bala

Ar ôl y chwiban olaf dywedodd llywydd anrhydeddus Y Bala, Nigel Aykroyd, fod y canlyniad yn gwbl anhygoel.

"Dwi'n methu credu'r peth, mae'n anhygoel, ac yn sicr da ni am ddathlu heno.

"O ni ddim yn credu y bod hin bosib, mae TNS yn dîm mor dda, a gwneud hynny ar ôl bod ar ôl hi o 1-0, mae'n rhywbeth aral, anhygoel.

"Mae tre o seis y Bala wedi ennill Cwpan Cymru, y timau eraill sydd wedi ennill ydi rhai fel Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe a rwan Bala Town."