Heddlu Dyfed-Powys yn dod o hyd i gorff ger Llangrannog

Arthur Roy Taylor Image copyright Llun teulu
Image caption Mae teulu Arthur Taylor sydd wedi bod ar goll ers 15 Ebrill wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf

Mae'r heddlu yng Ngheredigion yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod ar yr arfordir ger Llangrannog tua 14:45 dydd Sul.

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn cymorth Gwylwyr y Glannau a'r RNLI er mwyn dod a'r corff i'r lan.

Mae teulu Arthur Taylor wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Fe wnaeth Mr Taylor, 90 oed, fynd ar goll o'i gwch yng nghyffiniau Gwbert ar ddydd Sadwrn 15 Ebrill.

Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i Swyddfa'r Crwner.