Morgannwg yn colli i Surrey yn y Cwpan Undydd

  • 1 Mai 2017
Sangakkara Image copyright Getty Images

Colli oedd hanes Morgannwg yn y Cwpan Undydd wrth i law effeithio'r gêm yn erbyn Surrey yng Nghaerdydd.

239 oedd cyfanswm y tîm cartref gyda'r cyfraniadau mwyaf yn dod gan Colin Ingram (72) a Jacques Rudolph (57).

Ond doedd Morgannwg methu a manteisio ar y cyfle, wrth i Jade Dernbach a Sam Curran gymryd tair wiced yr un i Surrey.

Roedd oedi yn y gêm oherwydd glaw, ac fe gafodd Surrey darged o 182 mewn 29 pelawd i ennill.

Llwyddodd yr ymwelwyr i gyrraedd y targed drwy 74 Mark Stoneman ac 81 heb fod allan gan Kumar Sangakkara.