Ceisio gosod record byd am daflu esgidiau
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ceisio gosod record byd am daflu esgidiau yn Llanarthne

1 Mai 2017 Diweddarwyd 15:55 BST

Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin wedi ceisio torri record byd am y nifer fwyaf o bobl yn taflu esgidiau Wellingtons ar unwaith.

431 oedd y record, ond fe wnaeth dros 600 o bobl gymryd rhan yn Sioe Llanarthne ddydd Llun.

636 o bobl yw'r ffigwr fydd yn cael ei gyflwyno i Recordiau Byd Guinness.

Ni fydd y record yn cael ei gadarnhau yn swyddogol am rai wythnosau.