Cyhuddo mwy o bobl wedi cyrch cyffuriau Casnewydd

heddlu
Image caption Swyddogion yr heddlu yn defnyddio llif gadwyn i gael mynediad i un adeilad yn ystod y cyrch

Mae pedwar yn rhagor wedi eu cyhuddo yn dilyn cyrch cyffuriau yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, yn ôl Heddlu Gwent.

Dywedodd y llu ddydd Sadwrn bod 20 o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Mae'r ffigwr bellach wedi codi i 24, ac maen nhw oll yn bobl leol.

Cafodd 27 o bobl eu harestio, gyda thri ohonynt wedi eu rhyddhau'n ddi-gyhuddiad.

Fe archwiliodd Heddlu Gwent 35 o gyfeiriadau yn y ddinas ddydd Mercher, gyda 200 o heddweision yn rhan o'r ymgyrch.

Straeon perthnasol