Cwpan Undydd: Sussex yn trechu Morgannwg

Stiaan van Zyl Image copyright Getty Images

Cafodd Morgannwg eu trechu gan Sussex o 59 rhediad yn eu trydedd gornest yn y Cwpan Undydd eleni.

Llwyddodd Sussex i gyrraedd 292-6 mewn 50 pelawd gyda pherfformiadau cryf gan sawl un o'u batwyr, gan gynnwys Stiaan van Zyl gafodd sgôr o 96.

Cyrhaeddodd Morgannwg 138-6 mewn 32 pelawd cyn i law oedi'r chwarae, ac wedi iddyn nhw ailddechrau cawson nhw darged newydd o 281 rhediad mewn 43 pelawd.

Ond er i Jacques Rudolph a Chris Cooke sgorio dros hanner cant o rediadau'r un, cafodd Morgannwg eu bowlio am 221 wrth geisio cyrraedd y cyfanswm.