Galw am safonau ar gyfer hyfforddi cŵn cymorth

  • 3 Mai 2017
ci

Mae galwadau i gyflwyno safonau cenedlaethol o ran hyfforddi a darparu cŵn cymorth ar gyfer plant ag awtistiaeth a chyflyrau eraill.

Daw hyn ar ôl i'r sefydliad safonau masnach gynnal ymchwiliad i hyfforddwr yn ne Cymru.

Gall cŵn cymorth gysuro plant ac oedolion ag awtistiaeth a rhoi cymorth gyda thasgau dyddiol.

Ond yn ôl arbenigwyr, mae angen deddfwriaeth newydd yn y maes i atal teuluoedd rhag cael eu hecsbloetio gan hyfforddwyr twyllodrus sy'n gallu codi tâl o filoedd o bunnoedd am gŵn heb yr hyfforddiant priodol.

'Talu miloedd'

Mae dros 7,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio cŵn cymorth, ac mae'r galw amdanyn nhw ar gynnydd.

Gan amlaf maen nhw wedi eu hyfforddi a'u darparu gan elusennau cydnabyddedig - ond mae ganddyn nhw restrau aros hir.

Tra bod yr elusennau yn cydymffurfio gyda safonau hyfforddi gwirfoddol, does dim safonau cenedlaethol yn bodoli.

Ym mis Rhagfyr 2015, dechreuodd swyddogion safonau masnach ymchwiliad i Andre Matos ar ôl derbynion cyfanswm o 11 cwyn gan deuluoedd o mor bell i ffwrdd â'r Alban.

Roedd yn gweithio o Dredegar a Merthyr Tydfil, ac enw ei gwmni oedd Autism Support Dogs UK.

Image caption Mae Helyn Sims yn un o'r bobl sydd wedi cael trafferthion

Yn y rhan fwyaf o'r achosion, roedd y cŵn wedi cael eu prynu ar gyfer plant gydag awtistiaeth, Syndrom Asperger ac anghenion arbennig eraill.

Roedd rhai o'r cleientiaid wedi talu hyd at £5,000 ar gyfer y cŵn, a miloedd o bunnau'n ychwanegol ar gyfer costau teithio a threuliau.

Cafodd nifer o'r anifeiliaid eu prynu yn dilyn ymgyrchoedd lleol i godi arian, a chan ddefnyddio cyfraniadau elusennol.

Yn ôl arbenigwyr wnaeth asesu'r cŵn ar ran safonau masnach, doedden nhw ddim wedi derbyn yr hyfforddiant priodol.

Gwrthod honiadau

Yn ogystal â chwynion nad oedd y cŵn yn perfformio fel y disgwyl, mewn rhai achosion, roedd y perchnogion yn honni bod yr anifeiliaid yn ffyrnig ac yn wyllt.

Cafodd rhai eu symud i gartrefi newydd, tra bod teuluoedd eraill wedi eu cadw fel anifeiliaid anwes.

Fe wnaeth Mr Matos fynychu cyfarfod gyda swyddogion safonau masnach o'i wirfodd ym mis Mawrth 2016, mewn cysylltiad â honiadau oedd yn ymwneud â thwyll a diogelu defnyddwyr.

Roedd yn gwrthod yr honiadau ac yn wfftio'r awgrym nad oedd wedi hyfforddi'r cŵn i'r safon angenrheidiol.

Image caption Fe allai Mr Matos ddechrau masnachu eto os yw'n dychwelyd i'r wlad, yn ôl Steve Osborne

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd rheolwr tîm safonau masnach Blaenau Gwent a Thorfaen, Steve Osborne: "Roedden ni'n ymchwilio i droseddau ac roedd yna botensial i gynnal achos troseddol."

Fe wnaeth Mr Matos, sy'n 42 mlwydd oed a'n dod o Bortiwgal yn wreiddiol, adael y Deyrnas Unedig y llynedd.

Cafodd warant i'w arestio ei gyhoeddi yn sgil cais gan safonau masnach, ac maen nhw eisiau siarad gydag ef eto.

"Mae yna botensial iddo ddychwelyd a dechrau masnachu unwaith eto ac ry'n ni'n awyddus iawn i siarad gyda Mr Matos," meddai Mr Osborne.

"Un o heriau ein hymchwiliad yw nad yw'r ddeddfwriaeth yn cynnig safonau clir statudol ar gyfer y cŵn na'u hyfforddwyr.

"Rwy'n credu bod lle i gryfhau'r ddeddfwriaeth i wneud ymchwiliadau fel hyn ychydig yn haws."

Codi arian

Roedd Mr Matos yn hyfforddi gyda Service Dogs Europe - sefydliad oedd wedi ei leoli yn Iwerddon cyn mynd i'r wal yn niwedd 2015 yn dilyn pryderon am eu dulliau hyfforddi.

Fe wnaeth Helyn Sims o Rydyfelin, Pontypridd, brynu ci o'r enw Razor gan y cwmni er mwyn cynorthwyo ei mab 10 mlwydd oed, Jenson, sy'n cael ei asesu am awtistiaeth.

Fe dalodd hi £4,000, ond ar ôl i Service Dogs Europe fynd i'r wal, fe ofynnodd hi i Mr Matos yn bersonol i hyfforddi'r ci, gan dalu £2,000 yn ychwanegol.

Daeth teulu ffrindiau a chymdogion ynghyd i godi arian er mwyn prynu Razor ar gyfer Jenson.

Image caption Mae Razor bellach wedi dod yn rhan o'r teulu

Ond ar ôl i Razor ddychwelyd ar ôl cael hyfforddiant gan Mr Matos, er i Ms Sims sylwi fod y ci wedi tawelu ychydig, yn y pendraw roedd e'n ymddwyn yn yr un ffordd â'r cyfnod cyn cael ei hyfforddi.

Er bod Ms Sims wedi ceisio cysylltu â Mr Matos, mae'n dal i ddisgwyl i gael ei harian yn ôl.

'Cywilydd'

"Ry'n ni ar ein colled, mae'n anifail anwes drud sydd ddim yn gwneud dim, roedden ni wedi gwirioni â'r syniad o helpu Jenson," meddai.

"Rwy'n grac iawn ac wedi fy siomi. Beth sydd yn fy ngwylltio mwyaf yw mai plentyn bregus sydd ddim yn deall pethau cyffredin... gafodd addewid y byddai'n cael ci cymorth, a does ganddo fe ddim ci o'r fath.

"Rwy'n teimlo cywilydd ag embaras hefyd gan fod yr holl gymuned wedi dod at ei gilydd i helpu Jenson... rwy'n teimlo fel fy mod i wedi eu gadael i lawr."

Mae elusennau cŵn wrthi'n cynnal trafodaethau gyda llywodraeth San Steffan a chyflenwyr preifat ynglŷn â'r angen i gael deddfwriaeth newydd yn y maes.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod nhw'n "gweithio gyda'r sector cŵn cymorth i'w helpu i adolygu'r problemau sy'n ymwneud â safonau a chyflenwad, a'r bwriad yw creu safonau cyson ar gyfer y Deyrnas Unedig".

Image caption Mae rhai pobl yn cam-drin y system, meddai Peter Gorbing

Mae Peter Gorbing, cadeirydd sefydliad Assistance Dogs UK, yn dweud bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn ddi-drefn.

"Mae nifer cynyddol o bobl yn dod i mewn i'r farchnad â chefndir preifat, a beth ry'n ni'n ceisio annog, a'n gweithio gyda sefydliadau eraill a'r llywodraeth i gyflawni, yw cael rhyw fath o drefn o fewn y system nawr, cyn ein bod ni'n gorfod mynd i'r afael â beth allai ddatblygu i fod yn argyfwng," meddai.

"Ar hyn o bryd, does dim diffiniad clir o ran beth yw ci cymorth, mae'r ddeddf cydraddoldeb yn sôn am gŵn sydd wedi eu hyfforddi, ond dyw e ddim yn esbonio beth yw'r hyfforddiant.

"Yn sicr mae'r system yn cael ei gam-drin - dyw e ddim o reidrwydd yn beth cyffredin ac mae yna bobl ddilys iawn sydd yn hyfforddi eu cŵn i safon uchel, ond y broblem yw ar hyn o bryd, does dim ffordd o wahanu'r rheiny sydd wedi cael hyfforddiant da a rheiny sydd heb gael hyfforddiant."

Yn ôl Meleri Thomas, llefarydd ar ran y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol: "Y cyngor bydden i'n rhoi yw gwnewch eich gwaith cartref, gwnewch eich ymchwil, ymchwiliwch yn drwyadl, a pheidiwch â rhoi unrhyw arian oni bai bod chi'n hollol siŵr eich bod chi'n mynd i gael y gwasanaeth chi'n ymwybodol ohono fe."

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â Mr Matos am ymateb.