Bywyd y senedd yn dod i ben - ond beth nesaf?

ty'r cyffredin
Image caption Bydd meinciau Tŷ'r Cyffredin nawr yn wag am rai wythnosau

Mae bywyd byr ond digon cofiadwy senedd 2015 wedi dirwyn i ben.

Am un munud wedi hanner nos, heb unrhyw ffanffer, cafodd y senedd hon ei diddymu yn swyddogol tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Wrth gwrs mae'r ymgyrchu wedi hen ddechrau, ond bellach does gennych chi ddim ffasiwn beth ag Aelod Seneddol, dim ond aelodau cyffredin o'r cyhoedd - er rhai sy'n eich plagio am eu pleidlais, ac yn mynnu cusanu eich babis!

Ond dyw'r gwaith o lywodraethu'r wlad ddim yn stopio gan fod yna etholiad, felly mae gweinidogion yn parhau yn eu swyddi, a Theresa May dal i fod yn brif weinidog.

Ei gobaith hi yw y bydd hi'n cael aros yn 10 Downing Street, hyd yn oed ar ôl y bleidlais ar 8 Mehefin. Mae hi bron a bod yn sicr o gynyddu ar ei mwyafrif, ond y cwestiwn yw o faint?

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r polau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd Theresa May yn cynyddu ei mwyafrif

Yng Nghymru ac yn Lloegr mae'r Ceidwadwyr yn targedu seddi yn rhai o gadarnleoedd traddodiadol y blaid Lafur - llefydd fel Wrecsam, Delyn, De Clwyd, Pen-y-bont ar Ogwr, a Gorllewin Casnewydd.

Y nod yw cipio pleidleisiau gan bobl wnaeth droi at UKIP yn 2015, yn ogystal â chefnogwyr Llafur sydd o blaid Brexit.

Ond mae tîm Mrs May yn ymwybodol iawn bod angen rheoli disgwyliadau, gyda'r holl arolygon barn yn dangos eu bod nhw ymhell ar y blaen, gan mai'r pryder yw y bydd rhai yn credu nad oes angen iddyn nhw bleidleisio, tra bod eraill yn cael eu hannog i gefnogi unrhyw un arall er mwyn lleihau maint y fuddugoliaeth.

Image caption Bydd Jeremy Corbyn yn dod dan bwysau eto os yw Llafur yn gwneud yn wael

Ar y llaw arall, isel iawn yw'r disgwyliadau ar gyfer y blaid Lafur, ac yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones mae ganddyn nhw "fynydd i'w ddringo".

Mae rhai o'r ymgeiswyr Llafur yn ymddwyn fel eu bod wedi colli'r etholiad yn barod, a gan boeni am apêl Jeremy Corbyn, y neges ganddyn nhw yw pleidleisiwch Llafur, nid i ffurfio llywodraeth, ond i herio nerth y Ceidwadwyr.

Dyma'r her etholiadol fawr gyntaf i Mr Corbyn, ac er gwaethaf y gefnogaeth ymysg aelodau, os yw'r blaid yn colli nifer sylweddol o seddi, yna bydd hi'n anodd iawn, er nid yn amhosib atal ymgais arall i'w ddisodli.

Fe ddylai Plaid Cymru fod yn elwa o hyn, ond er gwaethaf trafferthion y blaid Lafur yng Nghymru, mewn gwirionedd dim ond un sedd ychwanegol maen nhw'n ei dargedu.

Wrth beidio â sefyll yn y Rhondda mae Leanne Wood wedi lleihau'r tebygrwydd o gipio'r sedd. Ond mae yna bosibilrwydd go iawn y gallan nhw gipio Ynys Môn.

Bydd yna gwestiynau difrifol yn cael eu gofyn a ydyn nhw'n gallu gwyrdroi mwyafrif o 229 yn yr amgylchiadau penodol yma.

Image caption Oedd Leanne Wood yn ddoeth i beidio â sefyll yn y Rhondda?

Mae Brexit yn sicr yn un o brif bynciau trafod yr etholiad hwn, a does dim dwywaith na fyddai'r refferendwm wedi digwydd heb fodolaeth UKIP.

Ond gyda'r nod o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi'i gyflawni, y cwestiwn nawr yw beth yw pwynt UKIP?

Hyd yn hyn dydi o ddim yn gwestiwn maen nhw eu hunain yn gallu ei ateb, ac mae'r blaid mewn trafferthion.

Fe wnaeth eu hunig Aelod Seneddol eu gadael ym mis Mawrth, a doedd hyd yn oed eu harweinydd Paul Nuttall ddim yn siŵr os oedd o'n mynd i sefyll. Fe fydd o nawr - yn Boston a Skegness.

Image copyright PA
Image caption Mae Paul Nuttall bellach wedi cadarnhau y bydd yn sefyll fel ymgeisydd

Os yw eu cefnogwyr yn aros gydag UKIP fe allai hynny niweidio gobeithion Mrs May o gipio seddi oddi ar y blaid Lafur.

Ond os yw eu cefnogaeth yn disgyn yn sylweddol, maen nhw'n debygol o weld eu pedwerydd arweinydd o fewn dwy flynedd.

Fel plaid sy'n gadarn yn erbyn Brexit, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn brwydro am bleidlais y 48% oedd yn cefnogi aros.

Ac os yw Mrs May yn mynd i golli unrhyw seddi, mae'n debygol mai i'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd y rheiny.

Image copyright Getty Images
Image caption Ai dyma ddechrau'r ffordd 'nôl i Tim Farron a'r Democratiaid Rhyddfrydol?

Wedi canlyniad trychinebus yn 2015, mae'n bur debyg y gwelwn ni rhyw fath o adfywiad yn ffawd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond dwi ddim yn darogan y byddan nhw unrhyw le yn agos i'r 57 cawson nhw yn 2010.

Wrth gwrs, fe all llawer newid yn ystod ymgyrch, ac yn y pen draw yr etholwyr fydd yn penderfynu pwy fydd yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ymhen ychydig wythnosau.